Cyd-fenter rhwng Sir Benfro yng Nghymru a Sir Carlow yn Iwerddon yw’r Cultural X-Change er mwyn creu dwy rith amgueddfa, un yr un ar gyfer y ddwy sir.

Yn 2004 y dechreuodd cysyniad Cultural X-Change ddod i’r amlwg yn ystod trafodaethau rhwng aelodau Gwasanaeth Amgueddfeydd Carlow a Sir Benfro. Fe gytunwyd y dylid cynnal prosiect er mwyn cyfnewid gwybodaeth hanesyddol a diwylliannol mewn perthynas â’r ddwy Sir.

Gyda’r prosiect arloesol hwn mae pobl o bedwar ban y byd yn gallu cael gwybodaeth am dreftadaeth a diwylliant Sir Benfro a Carlow, trwy gyfrwng gwefan ddiddorol sy’n rhwydd i’w defnyddio.

Fe gyflwynwyd cais am gyllid ar gyfer y prosiect ac ym mis Mehefin 2004, cafodd cyfanswm o £199,626 ei ddyfarnu trwy Raglen Interreg IIIA yr Undeb Ewropeaidd. Fe roddodd Cyngor Sir Penfro, Cyngor Tref Carlow a Chyngor Sir Carlow gyllid ychwanegol ar gyfer y prosiect.