Unwaith y cafodd cyllid ei sicrhau fe roddwyd cychwyn ar y prosiect, a’r peth cyntaf a wnaethpwyd oedd penodi timau prosiect ar gyfer y ddwy sir. Eu tasg gyntaf oedd dweud pa gasgliadau a fyddai’n cael eu dodi ar y wefan a sut y byddent yn cael eu harddangos.
Un o’r prosesau pwysicaf wrth lunio rhith amgueddfa oedd digidoli casgliadau’r siroedd. Roedd hyn yn golygu sganio hen gardiau post, ffotograffau, mapiau a dogfennau a thynnu ffotograffau o arteffactau, adeiladau, tirnodau a thirweddau.
Ar ôl llunio’r delweddau digidol cawsant eu golygu a’u fformadu er mwyn iddynt fod yn addas ar gyfer y We. Defnyddiwyd meddalwedd delweddu 3D arbenigol i lunio delweddau 3D o olygfeydd, tirnodau, adeiladau, ystafelloedd ac arteffactau. Mae’r delweddau i’w gweld ledled y wefan ac maent yn caniatáu i’r defnyddiwr fwrw golwg agosach ar y safleoedd a’r gwrthrychau hanesyddol sydd i’w cael yn y ddwy sir.
Cafodd y wefan ei llunio gan ddefnyddio’r delweddau hyn ynghyd â gwybodaeth o lyfrau hanes lleol, dogfennau a thrafodaethau gyda haneswyr ac arbenigwyr lleol. Defnyddiodd tîm y prosiect y rhaglenni diweddaraf mewn Datblygu Graffeg a Gwefannau er mwyn sicrhau y byddai’r gwaith gorffenedig yn syml a rhwydd i’w ddefnyddio, eto’n fodern, soffistigedig a thrawiadol hefyd.
Er bod dwy rith amgueddfa ar wahân, un i Carlow ac un i Sir Benfro, cafodd y ddwy ohonynt eu llunio am fod timau’r ddau brosiect wedi cydweithredu a chydweithio law yn llaw â’i gilydd. Mae patrwm a ffurf debyg i’r ddwy amgueddfa a chafodd cysylltiadau eu meithrin er mwyn i’r defnyddiwr allu bwrw golwg ar y chymharu hanes y ddwy sir yn hollol rwydd.